Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Mehefin 2017
Amser: 09.40 -
11.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4162
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Andrew Hobden, Llywodraeth Cymru Matthew Mortlock, Swyddfa Archwilio Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru Jonathan Price, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Sulafa Thomas |
1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod
2. Nodwyd y papurau
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru.
3.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn rhoi manylion am y costau llawn sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y flwyddyn 2016-17.
4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am gostau gwirioneddol y pedair Deddf sy'n cael eu cynnwys yn yr ymchwiliad:
· Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
· Deddf Cymwysterau Cymru 2015;
· Deddf Tai (Cymru) 2014; a
· Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
5. Derbyniwyd y cynnig.
6. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
8. Cytunodd y Pwyllgor ar gamau nesaf proses recriwtio Swyddfa Archwilio Cymru a'r contractau ar gyfer Aelodau newydd o'r Bwrdd.